Roedd yn amlwg o’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd bod cael cartrefi sy’n hawdd i’w cynhesu yn y gaeaf – ac sydd ddim yn mynd rhy boeth yn yr haf – yn bwysig i bawb.

Pam fod hyn yn bwysig?
Mae gan Gymru rai o’r eiddo wedi’u hinswleiddio gwaethaf yn Ewrop, gyda dim ond 7% o gartrefi’r DU wedi’u hadeiladu ar ôl 2001, ac yma yng Ngogledd-orllewin Cymru mae gennym y canran uchaf o gartrefi wedi eu hadeiladu cyn 1919 yng Ngorllewin Ewrop.
Pan fydd cartref wedi’i inswleiddio’n wael, mae mwy o wres yn dianc, gan orfodi pobl i ddefnyddio mwy o ynni i gadw tymheredd cyfforddus. Mae hyn yn arwain at filiau gwresogi uwch a mwy o allyriadau carbon. Gall cartref sy’n “gollwng” gael effaith hinsawdd uwch na gyrru – bydd insiwleiddio ein hadeiladau yn iawn yn dod â buddion enfawr, o ran ein heffaith ar yr hinsawdd ac ar ran ein waledi!
Pen Llŷn
Mae Ynni Llŷn, partner GwyrddNi ym Mhen Llŷn, wedi bod yn gwneud asesiadau ôl-osod (retrofit) ar dai ac adeiladau cymunedol ers dechrau 2024, ac maent yn gweithio hefo contractwyr lleol i gynnig gwasanaeth ôl-osod llawn i gwsmeriaid.
Dechreuodd chwe aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Ynni Llŷn wirfoddoli ar ôl cyfarfod yng Nghynulliadau Cymunedol Pen Llŷn, ac maent wedi bod yn brysur iawn dros y ddwy flynedd diwethaf yn sicrhau yswiriant a thystysgrifau, gwneud ceisiadau am grantiau, denu cwsmeriaid a recriwtio staff. Cafodd pedwar swydd rhan neu lawn-amser eu creu i bobl leol yn dechrau 2024.
Mae Ynni Llŷn nawr yn cynnig eu gwasanaeth ôl-osod drwy’r rhaglen Ôl-Osod i Bawb, ac maent hefyd wedi partneru ar y rhaglenni Cartrefi Clyd, Prosiect Sero Net Gwynedd, ac maent yn rhan o gonsortiwm Cyd Ynni.
Blog am waith Ynni Llŷn: https://www.gwyrddni.cymru/ynnillyn_jon/

Yn Ionawr 2024, daeth aelodau o bob ardal at ei gilydd ym Mhenygroes i drafod ynni ac ôl-osod. Un peth oedd yn glir o’r cyfarfod Dadgarboneiddio yma oedd bod angen mwy o gyfleoedd hyfforddiant i uwch-sgilio pobl leol.
Trefnwyd ymweliadau i adeiladau oedd wedi eu hôl-osod neu wedi cyrraedd safon Passivhaus: blog yma.
Mae pob cymuned a gymrodd rhan yn ein Cynulliadau Cymunedol hefo diddordeb cryf mewn ôl-osod tai, creu cymunedau mwy ynni-effeithlon ac edrych i mewn i ffyrdd o leihau biliau ynni – edrychwch ar y Cynlluniau Gweithredu yma.
Cysylltwch hefo’ch hwylusydd lleol neu llenwch y ffurflen yma os ydych eisiau bod yn rhan o ddechrau rhywbeth yn eich ardal chi.
