

Un o’r syniadau yng Nghynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Pen Llŷn oedd hyrwyddo beicio i bobl leol ac ymwelwyr, dileu rhwystrau i feicio a sefydlu grŵp beicio.
Fel ymateb i hyn, sefydlwyd Grŵp Strategaeth Beicio Llŷn ym mis Hydref 2023 gyda chynrychiolwyr o’r Cynulliad GwyrddNi, Darganfod Llŷn (cwmni beiciau preifat lleol), O Ddrws i Ddrws, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Fenter Congl Meinciau, Coleg Meirion-Dwyfor (staff a myfyrwyr), Ecoamgueddfa, Canolfan Pen y Graig a Sustrans.
Arweiniodd y cydweithio hwn at rentu lle yng Nghanolfan Menter Congl Menciau, Botwnnog – Hwb Beics GwyrddNi – i gadw’r beiciau. Sicrhaodd O Ddrws i Ddrws 13 o feiciau trydan gan Sustrans, 10 ar fenthyg yn wreiddiol tan ddiwedd mis Awst, ond maent bellach wedi cytuno ar estyniad ac wedi rhoi 7 beic arall.
Cymerodd beth amser i ddatblygu model gweithredu, sefydlu cytundebau benthyca, sicrhau yswiriant a hyrwyddo’r cynllun, ond gall pobl nawr ymuno â Hwb Beics Llŷn am £20 y mis, sy’n caniatáu iddynt fenthyg beic trydan. Benthycwyd yr holl feiciau a thyfodd y rhestr aros yn gyflym. Hyd yn hyn mae 40 o bobl wedi benthyca beic, ac mae’r adborth wedi bod yn bositif iawn, gyda rhai pobl yn mwynhau eu profiad gymaint nes iddynt brynu eu beic eu hunain yn fuan wedyn!
Darllenwch y blogbost yma gan Elin Fflur am ei phrofiad o fenthyg beic trydan: https://www.gwyrddni.cymru/beicspenllyn/
Cysylltwch â dafydd.rhys@ynnilyn.cymru i fod yn rhan o’r grŵp Strategaeth neu os ydych chi eisiau beic!


