Postiwyd ar

Proffil Gwirfoddoli: Rachel

Rachel Plaxton, Y Fron

Gwirfoddoli yn Yr Orsaf


Rwy’n falch iawn bod GwyrddNi wedi ymestyn ar draws Gwynedd gyfan, gyda phob grŵp yn canolbwyntio ar bethau gwahanol – yn Nantlle, ar fwyd a thyfu’n organig, pridd a bioamrywiaeth, a sut mae hyn yn effeithio ar y gymuned.” – Rachel Plaxton


Dod i Adnabod Rachel:

Unigolyn prysur a dawnus iawn ydy Rachel, a chanddi ddiddordebau di-ri, gan gynnwys gwirfoddoli yn Yr Orsaf.

Mae gan Rachel amrywiaeth o ddiddordebau a hobïau sy’n rhan bwysig o’i bywyd. Mae hi’n mwynhau gwaith llaw a garddio, ac yn cyfarfod unwaith y mis ym Mhenygroes i gymryd rhan mewn dosbarthiadau a gwrando ar siaradwyr gwadd. 

Roedd Rachel hefyd yn aelod o grŵp peintio dyfrlliw, rhywbeth roedd hi’n ei fwynhau’n fawr. Mae hi hefyd yn mwynhau mynd i glwb garddio Caeathro, lle mae siaradwyr gwadd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau. Mae hi wedi cael llawer o syniadau gan y clwb, gan gynnwys ychwanegu planhigyn Primula a phlanhigion o ysbrydoliaeth Japaneaidd at ei gardd.

Mae Rachel yn perthyn i eglwysi Anglicanaidd lleol sy’n cynnal gwasanaethau dwyieithog. Er nad yw’n siarad llawer o Gymraeg, mae hi’n mwynhau clywed yr iaith ac yn gwerthfawrogi pa mor barod yw pobl i’w helpu i ddeall. Yn yr eglwysi, mae Rachel hefyd yn arwain grŵp gweddïo rhyng-ymyrraeth yn Llanwnda a Llandwrog. Mae’r grŵp yn gweddïo dros y gymuned, teuluoedd ac am heddwch fyd-eang . 

Mae ymarfer corff hefyd yn rhan o fywyd Rachel, ac mae hi’n mwynhau dosbarthiadau Pilates. Yn ogystal â’i gweithgareddau niferus, mae hi’n treulio llawer o’i hamser yn ysgrifennu negeseuon e-bost at ffrindiau a theulu. Mae cadw mewn cysylltiad â’r bobl y mae hi wedi’u cyfarfod a’u hadnabod dros ei hoes yn bwysig iawn iddi.


Profiad Rachel wrth Wirfoddoli:

Dechreuodd Rachel wirfoddoli pan sefydlodd GwyrddNi a’r Orsaf y Pantri, pan gafodd yr hen swyddfa bost ei thrawsnewid. Roedd hi’n gwylio’r gwaith gyda diddordeb mawr ac roedd hi’n falch iawn o weld cyfle i leihau’r holl fwyd sy’n mynd i wastraff. 

Rwy’n ddiolchgar iawn am Yr Orsaf a’r bobl sydd yno. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych yn y gymuned, ac rwy’n mwynhau helpu gyda’r garddio y tu ôl i Yr Orsaf. Rwy’n helpu bob dydd Mercher. – Rachel Plaxton

Tra’n gwirfoddoli yn y Pantri a mynychu sesiynau Clwb Piclo, mae Rachel wedi creu ffrindiau oes a wedi llenwi ei bag a digonedd o fwyd dros ben sawl tro! Mae Sion wedi gofyn iddi am sawl rysait blasus ar gyfer y sesiynau Piclo, ac mae Rachel wedi hen arfer yn y gegin! Mae hi wedi bod yn gwneud jamiau a siytni ers iddi adael cartref, felly rhannodd Rachel rhai o’i ryseitiau mwyaf diddorol gyda Sion. Gwnaethant ei siytni riwbob, ac roedd yn boblogaidd iawn! Mae Rachel hefyd wedi mynychu sesiynau gwneud kimchi a kombucha yn y Pantri. 

Roedd Rachel hefyd yn arfer helpu yn yr ardd wyllt ym Mhenygroes, ond nawr yn helpu yn yr ardd lysiau tu cefn i adeilad Yr Orsaf. Mae ganddi lawer o brofiad o arddio a thyfu llysiau felly mae hi’n cael effaith gadarnhaol iawn ar yr ardd.  

Mae tŷ gwydr twnnel newydd yno bellach, ac wythnos diwethaf plannodd Rachel amrywiaeth o hadau. Maen nhw’n tyfu’n dda iawn ac mae popeth yn dod yn ei flaen yn braf, ac mae Rachel yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu dyfrio’n drylwyr. 

Dywedodd Rachel:

Mae’n mynd yn gynnes iawn yn y twnnel! Ond mae’n wych – mae’r hadau’n egino’n hyfryd. Rwy’n tynnu’r dant y llew a’r chwyn allan pan fyddaf yn eu gweld, ac yn gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ac yn iach.

Mae Sion yn ysbrydoliaeth ac mae’n gwneud gwaith gwych. Mae pa mor ffrwythlon yw’r ardd yn galonogol iawn. Mae ganddyn nhw domen gompost enfawr hefyd, ac rwy’n ychwanegu mwy o chwyn ato.”

Mae Rachel yn gwirfoddoli yn ardd Yr Orsaf bob dydd Mercher, ac yn ddiolchgar iawn i’r Orsaf ac i GwyrddNi am y gwaith maent yn gwneud yn y gymuned, ac yn mwynhau cael bod yn rhan o’r gwaith a helpu yn yr ardd.


Beth mae Rachel yn falch o weld fel gwirfoddolwr?

Mae Rachel yn falch o weld y codiad mewn ymwybyddiaeth am bwysigrwydd creu cynnyrch lleol, cadw’r pridd yn lan a gofalu am bioamrywiaeth lleol:

“Mae popeth yn galonogol iawn ac rwy’n falch iawn. Rwy’n falch o gael gwneud cyfraniad, ac mae hynny’n cael effaith donnog (domino effect) ar y gymuned ehangach – mae pobl yn sylweddoli pa mor hanfodol yw tyfu bwyd a gofalu am y pridd. Rwy’n hapus i gyfrannu at waith GwyrddNi a’r grŵp lleol yn Nantlle.”


Beth yw gobeithion Rachel am y dyfydol?

Yn lleol, hoffai Rachel i bobl fod yn llawer mwy ymwybodol o’r angen i leihau faint o gig rydym yn ei fwyta a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Ond, yn fwy na dim, dyma oedd prif obaith Rachel at ddyfodol gwell:

“Hoffwn i bobl fod yn fwy agored a meithrin cyfeillgarwch a chreu ffrindiau heb boeni am wahaniaethu, boed hynny o ran oedran, iaith neu hil. Drwy fod yn fwy agored i’n gilydd, gallwn greu byd gwell, economi cryfach a mwy o hapusrwydd i bawb.”

Os hoffech chi gyfarfod Rachel, neu eisiau rhoi cynnig ar wirfoddoli yn Nantlle, ewch draw i’r Orsaf ym Mhenygroes ar foreau dydd Mercher i ddweud helo a rhoi cynnig arni!

Rhannwch hwn: