
Be ydi Gwanwyn GwyrddNi?
Calendr o ddigwyddiadau ar draws ein pum ardal (Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Pen Llŷn, Bro Ffestiniog a Dyffryn Peris) rhwng y 29ain o Fawrth a’r 20fed o Ebrill.
Pa fath o bethau fydd yn digwydd?
Mae gennym pob math o ddigwyddiadau ar gael. Bydd ein calendr yn dod allan yn fuan, ond gallwch ddisgwyl pethau fel:
- Sesiynau blasu – piclo, trwsio pethau, plannu hadau, a mwy
- Sgyrsiau a siaradwyr difyr ar bynciau fel tir, tai a thyfu bwyd
- Ffilmiau am natur, cynaliadwyedd a chreu cymunedau gwyrdd
- Teithiau cerdded, e.e. taith mwsog, taith tywys beics neu daith ystlumod
- Cyfle i ddysgu mwy am y wyddoniaeth tu ôl i newid hinsawdd
- Paned i’r Blaned – cyfle i siarad/ymarfer Cymraeg mewn amgylchedd anffurfiol
… a llawer mwy!


Ewch i’n Calendr Digwyddiadau i ddysgu am y digwyddiadau diweddaraf neu agorwch yr amserlen yma.
Faint bydd pris tocyn?
Bydd popeth sy’n rhan o Gwanwyn GwyrddNi yn cael ei gynnig am ddim gan ein bod wedi ein hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd angen bwcio ar gyfer gweithgareddau?
Byddwch yn gallu troi i fyny i’r rhan fwyaf o weithgareddau, ond bydd rhai yn cael eu cynnig i nifer cyfyngedig. Bydd popeth ar ein tudalen Digwyddiadau yn fuan a bydd manylion yno.

Beth ydi GwyrddNi?
Mae GwyrddNi yn fudiad cymunedol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd yn lleol. Yn 2022-23, daeth tua 50 o bobl o bob un o’r pum cymuned gyda’i gilydd dros bedwar diwrnod o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd. Roedd ysgolion lleol hefyd yn rhan o’r broses, a gyda’i gilydd creuwyd Cynlluniau Gweithredu gan bob cymuned – gallwch eu gweld yma.
Mae rhai o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi ar hyn o bryd yn cynnwys tyfu bwyd yn lleol, caffis trwsio, ôl-osod cartrefi, ynni adnewyddadwy cymunedol, cynlluniau beiciau, prosiectau cysylltu natur greadigol, mapio bioamrywiaeth leol, a gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i gefnogi gweledigaethau’r plant ar gyfer dyfodol gwell (gweler ein tudalen Prosiectau).
Nawr, mae GwyrddNi yn cefnogi grwpiau lleol i gyflawni’r syniadau sydd yn y Cynlluniau Gweithredu, tra’n cefnogi dysgu, rhannu a gweithredu ar newid hinsawdd yn ein pum ardal. Os ydych eisiau cymryd rhan, mae sawl prosiect yn awyddus am gefnogaeth – neu gallwch siarad hefo’ch Hwylusydd lleol am ddechrau rhywbeth newydd.
Oes bosib i mi drefnu digwyddiad fel rhan o Gwanwyn GwyrddNi?
Os oes gennych syniad am ddigwyddiad yn un o’r pum ardal sydd yn cyd-fynd hefo’n themau, byddwn yn hapus i drafod cefnogi a hyrwyddo eich digwyddiad – cysylltwch hefo ni!
Bydd mwy o wybodaeth am Gwanwyn GwyrddNi ac amserlen o ddigwyddiadau i fyny ar y wefan yn fuan.
