Ydych chi’n edrych am le i siarad am newid hinsawdd a materion amgylcheddol yn y Gymraeg?

Rydym wedi dechrau Paned i’r Blaned – gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dyfu bwyd, o ynni i drafnidiaeth.
Cynhaliwyd sesiwn gyntaf Paned i’r Blaned Dyffryn Ogwen ar y 25ain o Ionawr yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, a’r ail ar y 22ain o Chwefror. Trafodwyd y newidiadau yr oedd pobl wedi eu gweld yn y tywydd, a pa fath o ddatrysiadau ac atebion i newid hinsawdd sydd gennym. Bydd y trydydd sesiwn ar y 29ain o Fawrth, fel rhan o Gwanwyn GwyrddNi, o 10:30-11:30Yyb yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda.
Bydd Paned i’r Blaned yn lansio yn yr ardaloedd eraill yn fuan:
- Dyffryn Peris: 29ain o Fawrth, 10yb yng Nghaffi’r Goeden Unig, Llanberis (mwy o wybodaeth)
- Pen Llŷn: 5ed o Ebrill, 10yb yng Nghaffi Largo, Pwllheli (mwy o wybodaeth)
- Bro Ffestiniog: 11eg o Ebrill, 6yh yng Nghaffi Antur, Blaenau Ffestiniog (mwy o wybodaeth)
- Dyffryn Nantlle: Sesiwn arbennig o Clwb Clebran yn edrych ar bynciau amgylcheddol ar y 4ydd o Ebrill o 11yb-12yp
Mae’r syniad o Paned i’r Blaned wedi ei ysbrydoli gan bethau fel Climate Cafes; People, Planet, Pint; a Phaned a Sgwrs – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, mae sesiynau fel hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd.

Bydd croeso i chi ddewis pwnc y mis nesaf, a byddem yn hapus iawn i gefnogi aelodau o’r gymuned i redeg sesiynau eu hunain neu gymryd drosodd y sesiynau.
Mae croeso i ddysgwyr sydd yn medru siarad rhywfaint o Gymraeg, ac rydym yn annog Cymry Cymraeg i ddod draw i roi cefnogaeth iddynt.
Bydd geirfa sydd yn addas i bwnc y mis ar gael i’ch helpu, ac wrth gwrs gallwch ofyn am esboniad neu gyfieithiad. Mae Menter Iaith wedi bod yn ein cefnogi i wneud yn siwr bod yn sesiynau yn hwylus ac yn hygyrch.
Eisiau gwybod mwy, neu gychwyn Paned i’r Blaned eich hunain? Cysylltwch hefo ni!
