

Mae’r Cwt Piclo yn cynnig lle i bobl ddysgu am a chymryd rhan mewn gweithdai ar gadw bwyd. Cododd y syniad fel ffordd o ddelio â gormodedd o fwyd wedi’i dyfu yn y gerddi cymunedol lleol, ond mae hefyd yn cynnig y cyfle i bobl ddysgu rhywbeth yr oedd ein neiniau yn gwybod yn iawn – y grefft o biclo a chadw bwyd.
Mae gofod pwrpasol ar gyfer gweithdai piclo yn cael ei baratoi ar hyn o bryd yn Yr Orsaf a bydd yn barod yn fuan. Yn y cyfamser, mae nifer o weithdai eisoes wedi eu cynnal.
Darllenwch mwy yn y blog yma gan Trey: https://www.gwyrddni.cymru/cwt-piclo/
Eisiau bod yn rhan o hyn? Cysylltwch â sion.yrorsaf@gmail.com



