GwyrddNi: Creu Cymunedau Gwyrdd





Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.
P’un a ydych eisiau helpu pob hyn a hyn hefo garddio cymunedol, neu os ydych yn gallu bod yn rhan ddyfnach o un o’n prosiectau, cysylltwch â ni! Rydym yn cefnogi grwpiau i greu cymunedau mwy bywiog, gwyrdd a gwydn, gan ganolbwyntio ar bynciau fel ynni, trafnidiaeth, tai, bwyd, gwastraff, byd natur a rhannu sgiliau ac adnoddau.
Blogiau diweddaraf:
- Galwad Agored – Comisiwn Ysgolion Creadigol GwyrddNi

- Oriel Plas Glyn-y-Weddw : Partner newydd GwyrddNi ym Mhen Llŷn!

- Parêd a pherfformio yng Ngharnifal Bethesda: Ysgolion Creadigol Dyffryn Ogwen

- Llyfr Gwyrdd Nantlle a thair cân wreiddiol: Ysgolion Creadigol Dyffryn Nantlle

- Yr iaith yn y tir – gan Carwyn Graves

- Cofio Cewri Tawel – teyrnged (gan Lowri)

Manylion:
Mae GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i ddarparu gan Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), menter gymdeithasol yn Ngwynedd, ac yn gweithredu mewn partneriaeth â phum sefydliad cymunedol arall; Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw ym Mhen Llŷn.
Yn 2022 a 2023 cynhaliom gyfres o Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn y pum ardal hyn. Arweiniodd hyn at greu Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol – cliciwch yma i’w gweld!
Fedrwch ddarllen mwy am broses y Cynulliadau yn ein hadroddiad: GwyrddNi – Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.
Gwyliwch ein fideos am y Cynulliadau Cymunedol ar ein sianel YouTube yma.
Ers haf 2023, rydym wedi derbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddod â’r syniadau o’r Cynlluniau Gweithredu yn fyw.
Rydym hefyd wedi gweithio gyda nifer o ysgolion lleol. Yn ystod rhan gyntaf y prosiect, fe wnaethom gyflwyno gweithdai hinsawdd a chynnal Cynulliadau o fewn yr ysgolion. Yna cafodd y plant ysgol gyfle i gyflwyno eu syniadau i’r Cynulliadau Hinsawdd oedolion, ac mae nifer o’u syniadau wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Gweithredu. Rydyn ni nawr yn gweithio gydag ysgolion i roi eu syniadau gweithredu hinsawdd ar waith – darllenwch fwy am ein cynnig addysg yma.










