Ynglyn â GwyrddNi

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Rydym yn dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd. 

P’un a ydych eisiau helpu pob hyn a hyn hefo garddio cymunedol, neu os ydych yn gallu bod yn rhan ddyfnach o un o’n prosiectau, gadewch i ni wybod – mae rhywbeth i bawb! Rydym yn cefnogi grwpiau i greu cymunedau mwy bywiog, gwyrdd a gwydn, gan ganolbwyntio ar bynciau fel ynni, trafnidiaeth, tai, bwyd, gwastraff, byd natur a rhannu sgiliau ac adnoddau.

Manylion: Mae GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i ddarparu gan Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), menter gymdeithasol yn Ngwynedd, ac yn gweithredu mewn partneriaeth â phum sefydliad cymunedol arall; Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw ym Mhen Llŷn. 

Yn ystod 2022-2023 buom yn cynnal Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd yn y bum ardal. Arweiniodd hyn at greu Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol –cliciwch yma i’w gweld!

Fedrwch ddarllen mwy am broses y Cynulliadau yn ein hadroddiad: GwyrddNi – Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.

Gwyliwch ein fideos am y Cynulliadau Cymunedol ar ein sianel YouTube yma.

Diweddaraf: Ers haf 2023, rydym wedi derbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddod â’r syniadau o’r Cynlluniau Gweithredu yn fyw.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda nifer o ysgolion lleol. Yn ystod rhan gyntaf y prosiect, fe wnaethom gyflwyno gweithdai hinsawdd a chynnal Cynulliadau o fewn yr ysgolion. Yna cafodd y plant ysgol gyfle i gyflwyno eu syniadau i’r Cynulliadau Hinsawdd oedolion, ac mae nifer o’u syniadau wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Gweithredu. Rydyn ni nawr yn gweithio gydag ysgolion i roi eu syniadau gweithredu hinsawdd ar waith – darllenwch fwy am ein cynnig addysg yma.

Cysylltwch a chymerwch ran!

Gwelwch ein erthyglau blog diweddaraf:

Rhannwch hwn: