- Pob Prosiect
- Prosiectau Bro Ffestiniog
- Prosiectau Dyffryn Nantlle
- Prosiectau Dyffryn Ogwen
- Prosiectau Dyffryn Peris
- Prosiectau Pen Llŷn
Caffi Trwsio
Mae Caffi Trwsio Bethel yn cael ei redeg gan TECSTILIAU, hefo cefnogaeth gan GwyrddNi o amser i amser. Rydym hefyd wedi trefnu caffis trwsio yn Llanrug, hefo'r gobaith i gynnal mwy yn y dyfodol. Mae grŵp Rhannu Stwff a Trwsio Bro Ffestiniog yn cydweithio hefo Ffiws a Llyfrgell y Pethau ym Mlaenau i gynnal gweithdai a gofod i bobl ddysgu am drwsio a chreu pethau. Mae Caffi Trwsio ym Mhenygroes yn cael ei gynnal gan Yr Orsaf unwaith y mis.
Partneriaeth Dyffryn Peris
Cynllun i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd yn Nyffryn Peris.
Cynnig Addysg
Mae GwyrddNi'n gweithio gydag ysgolion lleol i gyflwyno sesiynau ar newid hinsawdd, ymweld â datrysiadau hinsawdd lleol a chefnogi'r plant i ddatblygu a gweithredu eu syniadau cymunedol eu hunain. Rydym hefyd yn cynnig 'Ysgolion Creadigol GwyrddNi' sy'n dod a phlant a phobl ifanc ynghyd ag ymarferwyr creadigol i ffurfio a rannu gyda'u cymuned neges am yr hinsawdd mewn modd creadigol. Rydym wedi gweithio gyda channoedd o ddisgyblion, ac ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynlluniau i weithio gyda plant a phobl ifanc y tu allan i gyd-destun ysgol.
Cyfnewidfa Gwisg Ysgol
Yn sgil cyfnewid Gwisg Ysgol Bro Ffestiniog cafodd 300kg o wisg ysgol eu hailbwrpasu a’u hailddefnyddio yn 2024, gyda phum ysgol leol yn cymryd rhan. Bu plant yn helpu i addurno bocsys cyfrannu, tra roedd GwyrddNi a Chwmni Bro Ffestiniog yn trefnu casglu, golchi a dosbarthu'r gwisgoedd. Y nod yw i'r cyfnewid gwisg ysgol fod yn ddigwyddiad blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn ysgol ac i'r syniad ledaenu i ysgolion eraill.
Hwb Beics Pen Llŷn
Sefydlwyd Grŵp Strategaeth Beicio Llŷn ym mis Hydref 2023 gyda chynrychiolwyr o’r Cynulliad GwyrddNi, Darganfod Llŷn, O Ddrws i Ddrws, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Fenter Congl Meinciau, Coleg Meirion-Dwyfor (Staff a Myfyrwyr) , EcoAmgueddfa, Canolfan Pen y Graig a Sustrans. Mae nifer o feiciau trydan wedi eu rhoi neu eu benthyg gan Sustrans, a gall pobl nawr ddod yn aelodau o Hwb Beics Pen Llŷn am £20 y mis, sy’n eu galluogi i fenthyg beic trydan. Mae adborth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn!
Mapio Mwsog
Mae prosiect Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen yn bwrdiadu cofnodi ac arolygu mwsoglau a llysiau’r afu gyda lensys llaw, microsgopau a’r llygad noeth, a chreu map mewn naw man penodol yn Nyffryn Ogwen. Mae tîm Mapio Mwsog – Emily Meillieur, Alys Wardle, Emily Farrell a Catherine Moss, yn cael eu cefnogi gan GwyrddNi a Partneriaeth Ogwen – wedi arwain sawl taith gerdded mwsogl ers lansio’r prosiect ym mis Hydref 2023.
Cwt Piclo
Mae'r Cwt Piclo yn cynnig lle i bobl ddysgu am a chymryd rhan mewn gweithdai ar gadw bwyd. Cododd y syniad fel ffordd o ddelio â gormodedd o fwyd wedi'i dyfu yn y gerddi cymunedol lleol, ond mae hefyd yn cynnig y cyfle i bobl ddysgu rhywbeth yr oedd ein neiniau yn gwybod yn iawn - y grefft o biclo a chadw bwyd.
Stori’r Tir Dyffryn Peris
Mae Stori’r Tir yn brosiect creadigol sy’n casglu a rhannu straeon am ein perthynas â thir yn Nyffryn Peris. Nod Stori’r Tir ydi dod â’r gymuned ynghyd i ddal doethineb cenedlaethau blaenorol, hyrwyddo hunaniaeth a chysylltiad â’r tir, creadigrwydd a’r iaith Gymraeg. Hyd yn hyn bu 15 o brosiectau, gyda mwy yn cael eu datblygu.
Dim Mwy o Byst

Prosiectau Bro Ffestiniog, Prosiectau Dyffryn Nantlle, Prosiectau Dyffryn Peris
Prosiectau economi gylchol