Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.
Rhan holl-bwysig o’r gwaith yma yw cydweithio ag ysgolion yr ardal i gynnal rhaglen addysg i gyd fynd ag ethos a thema’r gwaith yn y gymuned. Yn ardal Bro Ffestiniog rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgol y Moelwyn, Ysgol Bro Hedd Wyn, Ysgol Edmwnd Prys ac Ysgol Bro Cynfal.



Yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2022 buom yn cynnal gweithdy am Newid Hinsawdd gyda disgyblion o’r ysgolion hyn. Yna, yn ystod tymor yr hydref 2022 bu cyfle i’r plant a bobl ifanc brofi rhai o’r datrysiadau hinsawdd sydd eisoes ar y gweill yn eu cymuned nhw.
Ac ym mis Rhagfyr 2022 cynhaliwyd Cynulliad Ysgolion Bro Ffestiniog yn Ysgol y Moelwyn. Mynychwyd y Cynulliad gan 50 o blant a phobl ifanc o Ysgolion y Moelwyn, Bro Hedd Wyn, Edmwnd Prys a Bro Cynfal.
Yn ystod y Cynulliad bu’r disgyblion yn trafod pa lefydd a phethau yn eu hardal sy’n bwysig iddyn nhw, cyn mynd ymlaen i geisio gweledigaethu sut le all eu hardal fod yn y flwyddyn 2040, pan fyddwn wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i her yr hinsawdd. Yn dilyn hyn bu’r criw yn meddwl am syniadau ar sut i gyrraedd y dyfodol arbennig yma. Mae’r gweledigaethau a’r syniadau yn saff o’ch hysbrydoli!
Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Llawn Cynulliad Hinsawdd Ysgolion Bro Ffestiniog, sy’n cynnwys rhagor o luniau a gwybodaeth benodol am bob sesiwn.
