Cynhaliwyd y cynulliad cyntaf ym mis Mehefin 2022 a cynhaliwyd y sesiwn olaf yn ystod gwanwyn 2023. Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Bro Ffestiniog a greuwyd gan y gymuned drwy broses y cynulliadau.
Dyma fideo yn edrych ar bopeth sydd wedi digwydd ers cynnal y Cynulliadau ac yn dathlu popeth sydd wedi bod yn digwydd ym Mro Ffestiniog:
Eisiau bod yn rhan o weithredu hinsawdd ym Mro Ffestiniog? Cysylltwch hefo Nina: nina@cwmnibro.cymru
Gallwch ddysgu mwy am yr hyn a ddigwyddodd ym mhob sesiwn o’r cynulliad wrth glicio isod. Mae lluniau, cyflwyniadau a llawer mwy. Gallwch hefyd ddarllen rhagor am y broses, y bartneriaid, y nawdd a llawer mwy wrth glicio yma i ddarllen yr adroddiad, GwyrddNi: Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.
Addewid GwyrddNi
Ydych chi’n edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y Cynulliad? Os felly, beth am arwyddo Addewid GwyrddNi er mwyn ymrwymo i ddarllen ac ystyried cynnwys Cynllun Gweithredu Bro Ffestiniog pan fydd yn barod, er mwyn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy y gymuned? Byddwn yn anfon y Cynllun Gweithredu yn uniongyrchol at bawb sydd wedi arwyddo’r Addewid. I weld pwy sydd wedi arwyddo’r Adduned eisoes, ewch i waelod y dudalen neu cliciwch yma.
Ewch ati i bori, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ac os oes ganddoch unrhyw gwestiwn mae croeso i chi gysylltu â’ch hwylusydd lleol heddiw neu fynd draw i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Pwy sydd wedi arwyddo’r addewid?
Angela Middleton-Jones, Seren Ffestiniog
Beca George
Caren Jones
Catrin Gruffudd
David Kelso
Euriona Croft
Hourieh
Huw Lewis
Huw Morris, Gwelliant Trefin
Hywel Williams, Aelod Seneddol
Janine Hall
Jodie Pritchard
John Whitehead
Keith Jones
Keith Kilvert
Kiki Rees-Stavros, Menter Môn
Llŷr Jones, Cyngor Gwynedd
Mari Ffion Jones, Menter Bro Ffestiniog
Meg Thorman, Y Dref Werdd
Paul Williams
Rhian Elin George, Cyngor Gwynedd
Roger Greenhalgh
Ruth Goldberg
Sally Kemble
Sarah Lawton, Y Manod
Sian Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru
Steffan Prys Roberts, Cyngor Gwynedd
Stephanie Planchenault
Selwyn Williams
Susan Walker
Wendy Jones






