Bro Ffestiniog: Cynulliad 4

Cynhaliwyd Cynulliad olaf Bro Ffestiniog yn Neuadd Llanffestiniog ar ddydd Sadwrn 4ydd o Fawrth.

Aelodau Cynulliad Bro Ffestiniog

 Yn ystod y cynulliad olaf hwn bu’r aelodau wrthi’n brysur yn trafod yr holl syniadau gweithredu sydd wedi dod i law hyd yma. Roedd hwn yn gyfle i edrych yn fwy manwl ar y syniadau, ac i weld os oedd modd eu datblygu, ychwanegu atynt, a’u mireinio ymhellach cyn eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu

Mae Cynllun Gweithredu Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog wedi cael ei gyhoeddi gwelwch yma! Y nod rŵan yw rhoi’r syniadau sydd yn y cynllun ar waith. Bydd Nina yn cefnogi’r gwaith yma, gan edrych am gyfleoedd i gydweithio gydag unrhyw bartneriaid a sefydliadau lleol, ac mae croeso hefyd i aelodau’r cynulliad ac unrhyw un o’r ardal i ymuno yn y gwaith a’r hwyl!

Os ydych eisiau sgwrs gyda Nina am gefnogi Cynllun Gweithredu Dyffryn Ogwen cysylltwch ar nina@cwmnibro.cymru / 07950 414 401 ac arwyddwch Addewid GwyrddNi heddiw i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn y cynllun gweithredu pan mae’n barod.

Mae wedi bod yn broses wych a hoffem ddiolch o galon i bob un o aelodau’r cynulliad ym Mro Ffestiniog am eu hamser a’u hymroddiad. Mae cyfraniad pob un wedi bod yn bwysig ac yn werthfawr.

Rhannwch hwn: