Cynhaliwyd y cynulliad cyntaf ym mis Gorffennaf 2022 a cynhaliwyd y sesiwn olaf yn ystod gwanwyn 2023. Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Pen Llŷn a greuwyd gan y gymuned drwy broses y cynulliadau.
Dyma fideo yn edrych ar bopeth sydd wedi digwydd ers cynnal y Cynulliadau ac yn dathlu popeth sydd wedi bod yn digwydd ym Mhen Llŷn:
Eisiau bod yn rhan o weithredu hinsawdd ym Mhen Llŷn? Cysylltwch hefo Dafydd: dafydd.rhys@ynnillyn.cymru
Gallwch ddysgu mwy am yr hyn ddigwyddodd ym mhob sesiwn o’r cynulliad wrth glicio isod. Mae lluniau, cyflwyniadau a llawer mwy. Gallwch hefyd ddarllen rhagor am y broses, y bartneriaid, y nawdd a llawer mwy wrth glicio yma i ddarllen yr adroddiad, GwyrddNi: Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.
Addewid GwyrddNi
Ydych chi’n edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y Cynulliad? Os felly, beth am arwyddo Addewid GwyrddNi er mwyn ymrwymo i ddarllen ac ystyried cynnwys Cynllun Gweithredu Pen Llŷn pan fydd yn barod, er mwyn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy y gymuned? Byddwn yn anfon y Cynllun Gweithredu yn uniongyrchol at bawb sydd wedi arwyddo’r Addewid. I weld pwy sydd wedi arwyddo’r Adduned eisoes, ewch i waelod y dudalen neu cliciwch yma.
Ewch ati i bori, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ac os oes ganddoch unrhyw gwestiwn mae croeso i chi gysylltu â’ch hwylusydd lleol heddiw neu fynd draw i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Pwy sydd wedi arwyddo’r addewid?
Anna Home
Arabella Melville, Cyd-sylfeynydd ac Ymddiriedolwr Y Goedwig Dragwyddol
Carol Gilbert
Catrin Gruffudd
Craig Jones
Elgan Jones
Euriona Croft
Hourieh
Huw Lewis
Huw Morris, Gwelliant Trefin
Hywel Williams, Aelod Seneddol
Jodie Pritchard
Julia Everitt, The Eternal Forest Trust ltd
Keith Jones
Maggie Rogerson
Michelle Makatah
Natasha Jones
Paul Ireland
Sian Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru
Wendy Jones






