Pen Llŷn: Cynulliad 4

Cynhaliwyd Cynulliad olaf Pen Llŷn yn Neuadd Goffa Penygroes ar ddydd Sadwrn y 29ain Ebrill.

Yn ystod y cynulliad olaf hwn bu’r aelodau wrthi’n brysur yn trafod yr holl syniadau gweithredu sydd wedi dod i law hyd yma. Roedd hwn yn gyfle i edrych yn fwy manwl ar y syniadau, ac i weld os oedd modd eu datblygu, ychwanegu atynt, a’u mireinio ymhellach.

Mae Cynllun Gweithredu Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Pen Llŷn bellach wedi ei gyhoeddi. Y nod wedyn yw rhoi’r syniadau sydd yn y cynllun ar waith, gan edrych am gyfleoedd i gydweithio gydag unrhyw bartneriaid a sefydliadau lleol, ac mae croeso hefyd i aelodau’r cynulliad ac unrhyw un o’r ardal i ymuno yn y gwaith a’r hwyl!

Cofiwch bod modd i chi arwyddo Addewid GwyrddNi heddiw i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn diweddariadau am ein gwaith,

Mae wedi bod yn broses wych a hoffem ddiolch o galon i bob un o aelodau’r cynulliad ym Mhen Llŷn am eu hamser a’u hymroddiad. Mae cyfraniad pob un wedi bod yn bwysig ac yn werthfawr.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o roi’r syniadau yn y cynllun gweithredu ar waith, cysylltwch â Dafydd Rhys, Hwylusydd Cymunedol Pen Llŷn, i ddarganfod sut gallwch chi gymryd rhan: dafydd.rhys@ynnilyn.cymru

Rhannwch hwn: