Cynhaliwyd trydydd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Pen Llŷn yn Ysgol Botwnnog ar ddydd Sadwrn 18fed o Chwefror.
Yn dilyn Cynulliad Ysgolion Pen Llŷn a gynhaliwyd yn ysgolion Tudweiliog, Pont y Gof, Abererch a Foelgron yn gynharach y mis hwn, daeth criw o ddisgyblion draw i rannu’r syniadau a’r dyheadau a ddaeth gan y plant a’r bobl ifanc gyda’r aelodau.


Buont yn rhannu pa asedau oedd yn bwysig i blant a phobl ifanc yr ardal, a hefyd beth oedd yn dyfodol delfrydol nhw yma yn y flwyddyn 2040. Yn dilyn hynny wedyn bu’n rhannu eu syniadau ymarferol ar sut i gyrraedd y dyfodol gwych hwnnw.
Yn dilyn hyn bu ffair syniadau – cyfle i bawb glywed y syniadau sydd wedi eu datblygu gan amryw grwpiau a rhoi adborth neu gyfrannu atynt. Ac ar ddiwedd y prynhawn bu cyfle i sgwrsio yn ehangach am y broses gynulliadol, a’r camau nesaf.


Bydd yr aelodau yn parhau i weithio ar a datblygu’r syniadau hyn rwan er mwyn cyd-greu Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynulliad Pen Llŷn mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Cymunedol yr ardal, Dafydd Rhys, ar dafydd.rhys@ynnillyn.cymru, a gallwch hefyd danysgrifio i dderbyn cylchlythyr GwyrddNi yma i glywed y diweddaraf am ein gwaith.
