Dyffryn Peris: Cynulliad 1

Cynhaliwyd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf Dyffryn Peris ym mis Mai 2022.

Daeth hanner cant o bobl o’r ardal sydd wedi eu dethol yn aelodau o’r Cynulliad i’r sesiwn gyntaf i ddod i adnabod ei gilydd, a dechrau ar y broses o gydweithio i greu Cynllun Gweithredu.

Yn ystod y sesiynau cyntaf hyn bu’r aelodau yn trafod eu pryderon a’u gobeithion am broses y cynulliad ac yn trafod eu profiad nhw yn lleol o newid hinsawdd. Cawsom gyfle hefyd i glywed gan drigolion ac arbenigwyr lleol, a mapio a thrafod yr adnoddau a’r prosiectau sydd eisoes yn bodoli yn lleol.

Dyma adroddiad llawn o Gynulliad cyntaf Dyffryn Peris.

Dyma lun sy’n dangos beth fydd proses a thaith y pedwar Cynulliad:


Dyma sgwrs a gafwyd yn ystod y Cynulliad gan yr hanesydd ecolegol a sefydlydd Cymuned Llên Natur, Duncan Brown.

Nid yw’r sain yn gwbl glir trwy’r fideo ond gallwch ddarllen sgwrs Duncan yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yn fan hyn.

Dyma sgwrs a gafwyd yn ystod y Cynulliad gan Ceri Cunnington o Gwmni Bro Ffestiniog am rai o’r prosiectau a’r mentau cyffrous sydd ar waith yn ardal Ffestiniog.


Gallwch ddarllen sgwrs Ceri yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yn fan hyn.

Cynhelir ail Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Peris ym mis Medi 2022.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Peris, mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Dyffryn Peris, Lowri Hedd Vaughan: lowri@deg.cymru

Rhannwch hwn: