Cwestiynau Cyffredin

Beth ydi GwyrddNi?

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn, ac yn cael ei arwain gan, y gymuned. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd. 

Yn ystod 2022-2023 buom yn cynnal Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd yn y bum ardal. Arweiniodd hyn at greu Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol i bob ardal.

Ers haf 2023, rydym wedi derbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddod â’r syniadau o’r Cynlluniau Gweithredu yn fyw.

Beth mae GwyrddNi yn ei wneud?

Rydym yn cefnogi prosiectau sy’n cyd-fynd a’r syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol – weithiau yn gweithio hefo’r gymuned i ddod a’r syniadau’n fyw o’r newydd, neu gydweithio hefo prosiectau sy’n bodoli yn barod.

Rydym yn gweithio yn Nyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Pen Llŷn a Bro Ffestiniog.

Rydym hefyd yn gweithio gyda nifer o ysgolion lleol. Yn ystod rhan gyntaf y prosiect, fe wnaethom gyflwyno gweithdai hinsawdd a chynnal Cynulliadau o fewn yr ysgolion. Yna cafodd y plant ysgol gyfle i gyflwyno eu syniadau i’r Cynulliadau Hinsawdd oedolion, ac mae nifer o’u syniadau wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Gweithredu.

Rydyn ni nawr yn gweithio gydag ysgolion i roi eu syniadau gweithredu hinsawdd ar waith – darllenwch fwy am ein cynnig addysg yma.

Pwy sy’n rhedeg/ariannu GwyrddNi?

Mae GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i ddarparu gan Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), menter gymdeithasol yng Ngwynedd, ac yn gweithredu mewn partneriaeth â phum sefydliad cymunedol arall; Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn. 

Mae GwyrddNi yn cynnwys tîm bach o staff cyflogedig yn ogystal â thunelli o wirfoddolwyr anhygoel sy’n gwneud popeth a wnawn yn bosibl.

Beth oedd y Cynulliadau Hinsawdd?

Yn 2022/23, cynhaliodd GwyrddNi gyfres o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ar draws pum ardal. Gallwch ddarllen adroddiad ar y broses yma, neu ewch i dudalen pob ardal i ddarllen mwy am sut ddigwyddodd y broses ym mhob ardal.

Penderfynodd sampl o’r cyhoedd, gyda’i gilydd, ar yr hyn yr oeddent am ei flaenoriaethu – cyhoeddir y syniadau hyn yn y Cynlluniau Gweithredu.

Beth ydi’r Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol?

Dyma sut dalwyd y syniadau oedd wedi eu penderfynu ym mhob Cynulliad – gallwch weld y Cynlluniau Gweithredu yma. Mae un ar gyfer pob ardal, ac maent yn cynnwys themau, camau nesaf a manylion am sut i ddechrau eu cyflawni.

A oes angen i mi fod wedi bod yn rhan o’r Cynulliadau Cymunedol i gymryd rhan?

Nac oes wir, mae croeso i bawb! Mae digon o bethau’n digwydd, a gallwch ymuno unrhyw bryd neu hyd yn oed gynnig prosiect newydd.

Pa fath o weithgareddau mae GwyrddNi yn eu cefnogi?

Rydym yn cefnogi ystod eang o weithgareddau gan gynnwys garddio cymunedol, caffis trwsio, prosiectau effeithlonrwydd ynni, mentrau trafnidiaeth gynaliadwy, lleihau gwastraff, addysgu a newid ymddygiad, a llawer mwy!

Gallwch weld rhestr o brosiectau ar ein tudalen Prosiectau – ond mae’r rhestr yn dal i dyfu!

Sut allaf gael gwybod am ddigwyddiadau lleol?

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf yn eich ardal:

Facebook: https://www.facebook.com/GwyrddNi
Instagram: https://www.instagram.com/gwyrddni_/
BlueSky: https://bsky.app/profile/gwyrddni.bsky.social

Gallwch hefyd gysylltu â’ch hwylusydd lleol i gael eich ychwanegu at restr bostio’r ardal, ac ymuno â chylchlythyr tymhorol GwyrddNi drwy sgrolio i waelod y dudalen flaen yma.

Tydw i ddim yn siarad Cymraeg. Ga i gymryd rhan?

Cewch siwr! Rydym yn croesawu cyfranogiad yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Menter Iaith Gwynedd i geisio creu gofodau cynhwysol, cefnogol i bobl ddefnyddio’r Gymraeg y gallant ac i gefnogi teithiau dysgu Cymraeg pobl.

Does gen i ddim llawer o amser – be fedra i’w wneud?

P’un a ydych hefo rhyw awran fach pob hyn a hyn, neu fedrwch roi llwyth o amser i un o’n prosiectau, gadewch i ni wybod – mae ‘na rywbeth i bawb!

Bydd eich Hwylusydd lleol yn hapus i drafod syniadau a chyfleoedd hefo chi.

Fedrwch chi ariannu fy mhrosiect i?

Mae rhywfaint o gyllid sbarduno ar gael i roi hwb i brosiectau newydd neu i gefnogi mentrau presennol sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd os ydynt yn cyd-fynd â’r Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol. Felly, cysylltwch hefo ni i drafod be’ sy’n bosib!

Sut mae GwyrddNi yn helpu’r amgylchedd yng Nghymru?

Mae’r gwaith mae GwyrddNi yn ei wneud yn gallu helpu i leihau allyriadau carbon – e.e. drwy leihau ein dibynniaeth ar danwydd ffosil a chwmniau mawr rhyngwladol i’n bwydo, pweru ein cymunedau ayyb.

Mae hi’n anodd iawn i fesur hyn yn union gan fod cymaint o ffactorau yn mynd i fewn i fesur hyn yn ystyrlon. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag Afallen ar hyn o bryd i’n helpu i fesur y gwir effaith rydym yn ei chael ar yr amgylchedd a’r gymuned leol.

Manylion Cyswllt pob ardal: 

Pen Llŷn, Dafydd Rhys: dafydd.rhys@ynnillyn.cymru / 07887954301
Bro Ffestiniog, Nina Bentley: ffestiniog@gwyrddni.cymru / 07950 414 401
Dyffryn Ogwen, Chris Roberts:  chris@ogwen.cymru / 07766 793 945
Dyffryn Nantlle, Siôn Griffiths: sion.yrorsaf@gmail.com / 07502520397
Dyffryn Peris, Lowri Hedd Vaughan: lowri@deg.cymru / 07850 352 478

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych ragor o gwestiynau ewch i www.gwyrddni.cymru neu cysylltwch â ni ar post@gwyrddni.cymru



CWESTINAU CYFFREDIN : CYNULLIADAU HINSAWDD

Mae’r cwestiynau isod, ac ysgrifennwyd cyn y cynulliadau, wedi eu cadw yma er gwybodaeth.

Beth yw Cynulliad Cymunedol?

Mae Cynulliad Cymunedol yn lle i bobl ddod at ei gilydd i wrando, rhannu, siarad a chynllunio, cyn cytuno ar gynllun gweithredu. Caiff 50 o bobl eu dewis i fynychu i gynrychioli’r gymuned ehangach, gan roi ystyriaeth i ddemograffeg megis oedran, rhyw, ethnigrwydd ac yn y blaen, ac weithiau safbwyntiau hefyd, er enghraifft eich barn ar newid hinsawdd. Caiff y trafodaethau eu hwyluso gan Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, a fydd yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i ddweud ei ddweud, a bod pawb yn cael gwrandawiad mewn amgylchedd hamddenol. Nid oes angen ichi wybod unrhyw beth yn barod, byddwn yn dysgu gyda’n gilydd yn ystod y sesiynau. 

Pwy ydy’r trefnwyr?

Yn seiliedig ar nifer o flynyddoedd o weithgaredd cymunedol a llwyddiant ar lawr gwlad, mae’r mentrau cymdeithasol hyn wedi dod ynghyd i ffurfio mudiad GwyrddNi: DEG (Datblygiadau Egni Gwledig) Cwmni Bro, Ynni Llyn, Cyd Ynni, Yr Orsaf/Siop Griffiths a Phartneriaeth Ogwen. Nod GwyrddNi yw cryfhau llais ein cymunedau yn y ddadl ar newid hinsawdd drwy greu cynlluniau gweithredu cymunedol a fydd yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer cydweithredu er budd ein cymunedau a’n planed. Mae’r bartneriaeth wedi llwyddo i ddenu arian Loteri i ariannu Hwyluswyr Lleol i arwain y gwaith hwn drwy gynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn y pum ardal hon: Pen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Peris. 

Sut beth fydd y Cynulliad?

Os byddwn yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb, cynhelir y cynulliadau mewn lleoliad canolog yn yr ardal, fel neuadd gymunedol. Cawn gyfle i siarad â’n gilydd fel grŵp cyfan, a chyfle i rannu’n grwpiau sgwrsio llai. Byddwn yn cofnodi’r syniadau a’r sylwadau a gawn yn y cynulliad ar nodiadau a phapur siart droi, ac yn trefnu’r rhain o amgylch yr ystafell. Byddwn yn cael egwyliau i gael bwyd a meddwl. Os na chawn gyfarfod wyneb yn wyneb, byddwn yn cynnal hyn i gyd ar-lein. 

Sut fyddwch chi’n dethol aelodau’r cynulliad?

Bydd 50 aelod ym mhob un o Gynulliadau Cymunedol GwyrddNi. Mae mwy na 50 o bobl wedi mynegi diddordeb i gymryd rhan yn y cynulliadau ym mhob ardal, felly roedd angen ffordd deg a thrylwyr o ddethol aelodau. Er mwyn gwneud hyn rydym wedi defnyddio meddalwedd Panelot fel sydd yn cael ei awgrymu gan y Sortition Foundation, arbennigwyr yn y maes hwn. Defnyddiwyd data o gyfrifiad 2011, ac atebion i’r ffurlfen mynegi diddordeb er mwyn ceisio cael aelodaeth mor gynrycholiadol o’r boblogaeth â phosib, allan o’r nifer oedd wedi mynegi diddordeb. Rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio hefo’r 50 detholedig yn y Cynulliadau, ond bydd nifer o gyfleoedd i aelodau’r gymuned gydweithio ar gynlluniau a gweithgareddau’r Cynulliadau hefyd. I sicrhau eich bod yn derbyn diweddariadau am eich ardal chi, e-bostwich eich hwylysydd lleol.

Pam byddwn i eisiau gwneud hyn?

Rydyn ni eisiau i’r Cynulliadau gynrychioli pobl a phoblogaeth eich ardal a hoffem gael amryw o safbwyntiau a barn – yn union fel bywyd go iawn! Felly rydyn ni wir eisiau eich llais a’ch cyfraniad unigryw chi, beth bynnag y bo. Nid oes angen ichi fod yn gwybod dim yn barod, yr oll sydd angen ydy ichi rannu eich safbwyntiau a’ch barn a gwrando ar farn pobl eraill. Mae llawer o bobl sydd wedi mynychu cynulliadau tebygol wedi synnu cymaint maen nhw wedi mwynhau’r profiad.

Fyddai’n derbyn tâl am gymryd rhan?

Ar ddiwedd y Cynulliadau bydd rhodd o £100 neu dalebau lleol gwerth £100 yr un i’r aelodau i ddiolch am eu hamser a’u hymroddiad.

A oes angen i mi gymryd rhan?

Does dim rhaid ichi, mae’n gwbl wirfoddol, ond rydyn ni wir yn gobeithio y gwnewch chi! Efallai yn wir fod hon yn ffordd newydd i ni o ddod ynghyd i wneud penderfyniadau, ond mae cynulliadau a rheithgorau tebyg eisoes wedi cael eu cynnal ac wedi gweithio’n llwyddiannus ym mhob cwr o’r byd. Darllennwch ein blog i weld esiamplau o gynulleidfaoedd a rheithgorau eraill sydd wedi eu cynnal ym Mhrydain a ledled y byd.

Faint o amser fydd raid i mi ei roi?

Bydd hyd y cynulliadau yn amrywio ym mhob ardal, ond ar y cyfan bydd gofyn ichi roi tua 26 awr (tua pedwar diwrnod llawn) dros gyfnod o 12 mis.

A fydd raid imi siarad o flaen pobl?

Cewch gyfle i ddysgu, gwrando a thrafod fel cynulliad cyflawn ac mewn grwpiau llai, ond ni fyddwn byth yn rhoi pwysau arnoch i siarad o flaen pobl os nad ydych eisiau gwneud hynny. Byddwn yn sicrhau bod yna ffyrdd eraill ar gael i bobl rannu eu syniadau (e.e. siarad yn uniongyrchol â’r hwylusydd neu ysgrifennu eich syniadau ar bapur) os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad mewn grŵp.

A fyddaf i’n deall?

Byddwn yn rhannu gwybodaethmewn nifer o wahanol ffyrdd yn ystod y Cynulliadau – bydd yna siaradwyr, fideos a thaflenni’n cael eu dosbarthu. Nid oes angen ichi fod yn gwybod dim yn barod, yr oll sydd angen ydy ichi rannu eich safbwyntiau a’ch barn a gwrando ar farn pobl eraill. Bydd awyrgylch hamddenol yn y Cynulliad ac fe’i bwriedir ar gyfer unrhyw un sy’n byw yn yr ardal. Rydyn ni eisiau eich llais a’ch cyfraniad unigryw chi, beth bynnag y bo.

Rwy’n ofalwr

Rydyn ni’n deall bod gennych gyfrifoldebau a allai ei gwneud yn anodd ichi fynychu’r Cynulliadau. Os hoffech gymryd rhan ond eich bod yn meddwl y gallai hynny fod yn anodd oherwydd eich cyfrifoldebau gofalu, rhowch wybod inni ac fe welwn beth allwn ni ei wneud i’ch helpu chi i allu mynychu.

Rwy’n gweithio

Rydyn ni wedi ymdrechu i drefnu’r Cynulliadau ar amseroedd hwylus ond rydyn ni’n deall na fydd yr amseroedd hyn yn gweithio i bawb. Os hoffech gymryd rhan ond fod rhaid ichi weithio ar ddyddiau penodol, rhowch wybod inni ac fe welwn beth allwn ni ei wneud i’ch helpu chi i allu mynychu.

Mae gennyf anabledd

Ein nod yw sicrhau bod ein digwyddiadau a’n lleoliadau yn gwbl hygyrch i wahanol anghenion corfforol, synhwyraidd, dysgu ac emosiynol. Gallwn weithio gyda chi cyn y Cynulliadau i ddarparu cymorth ac addasiadau hanfodol ar gyfer eich anghenion.

A allaf fi gael help i gysylltu â’r rhyngrwyd os oes angen?

Os oes arnoch angen dyfais i fynychu’r cynulliad, neu os oes arnoch angen cysylltiad i fynd ar-lein, neu os oes arnoch angen helpu i gael mynediad i’r cynulliadau oherwydd, er enghraifft, nad ydych chi erioed wedi mynychu cyfarfodar-lein, fe allwn ni helpu â phob un o’r rhain.

A fyddaf i’n bersonol yn gorfod gweithredu ar ôl y cynulliad?

Na, nid oes dim disgwyl arnoch i gyflawni’r cynllun gweithredu ar yr hinsawdd ar ôl y cynulliadau. Ymdrech gymunedol fydd hi, gyda chymorth gan GwyrddNi a’r partner lleol yn yr ardal. Os hoffech gyflawni’r cynllun gweithredu ar ôl y cynulliadau bydd croeso ichi wneud hynny. 

A fydd bwyd yn cael ei ddarparu?

Bydd, mi fydd bwyd ar gael, gan gynnwys dewis llysieuol a figan.

Beth ddylwn i ei wisgo?

Cewch wisgo unrhyw beth sy’n addas yn eich barn chi. Byddwch yn eistedd ac yn cerdded o amgylch yr ystafell. Os yw’n ddiwrnod oer, cofiwch roi digon amdanoch rhag ofn ichi oeri. Os byddwn, ar unrhyw adeg, yn mynd tu allan yn ystod y dydd, byddwn yn rhoi gwybod ichi ymlaen llaw er mwyn ichi allu gwisgo dillad ac esgidiau addas. 

Pam bod Cynulliad Cymunedol yn cael ei drefnu?

Rydyn ni’n credu mai pobl leol, sy’n byw mewn ardal, sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y dyfodol yr hoffent ei weld ar gyfer yr ardal honno. Dyna pam, yn wyneb newid hinsawdd, ein bod ni’n credu mai dwyn pobl ynghyd i ddysgu, rhannu a phenderfynu gyda’i gilydd yw’r ffordd ymlaen. Gwyddom o brofiad, pan mae pobl yn cael yr amser, y lle a’r wybodaeth (o amrywiol ffynonellau) drwy Gynulliadau Cymunedol, Cynulliadau Dinasyddion neu Reithgorau Dinasyddion, y bydd aelodau’r cyhoedd yn cynnig argymhellion synhwyrol a gwybodus. Dyma beth rydyn ni’n gobeithio ei wneud ym Mhen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Peris. 

A fyddaf i’n cael fy enwi fel aelod o’r Cynulliad Cymunedol?

Mater i chi’n llwyr ydy hynny. Cewch aros yn ddienw, neu fe allwch rannu eich profiad o fod yn Aelod o’r Cynulliad ag eraill. Byddwn yn trafod hyn yn y cynulliadau ac ni fydd dim rhwymedigaeth arnoch i gael eich enwi os nad ydych yn dymuno. 

Beth fydd yn digwydd ar ôl y Cynulliad Cymunedol?

Wrth i’r Cynulliadau gael eu cynnal, bydd GwyrddNi yn siarad â chyllidwyr er mwyn cael rhagor o gyllid i gyflawni’r Cynlluniau Gweithredu Cymunedol ar yr Hinsawdd y cytunir arnynt yn y pum ardal. Yna ceir cyfle i aelodau’r Cynulliad ac eraill o’r gymuned weithio gyda GwyrddNi ac ein sefydliadau partner lleol i gyflawni’r cynlluniau y cytunwyd arnynt. Ceir cyfleoedd hefyd i gymryd rhan rhwng y cynulliadau – os byddwch yn cofrestru eich diddordeb ond ddim yn cael eich dewis, byddwn yn dal i roi gwybod ichi am unrhyw gyfleoedd yn eich ardal. 

Pwy fydd yn rhedeg y Cynulliadau Cymunedol?

Hwylusydd Gweithredu Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi dros eich ardal chi fydd yn rhedeg eich Cynulliad lleol, gyda chymorth gan weddill tîm GwyrddNi, ynghyd â’n sefydliad partner lleol. Dyma ein sefydliadau partner ym mhob ardal fel a ganlyn: Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Siop Griffiths/Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, a Cyd Ynni yn Nyffryn Peris. 

Sut wyf i’n cofrestru fy niddordeb i ymuno â’m Cynulliad Cymunedol lleol?

Mae’r cyfle i fynegi diddordeb mewn bod yn aelod o un o Gynulliadau Cymunedol GwyrddNi nawr ar ben. Os oes gennych ddiddordeb gwybod am yr hyn sy’n digwydd yn y cynulliadau a bod yn rhan o’r gweithgarwch a ddaw ohonynt, gallwch weld y newyddion diweddaraf yma ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae croeso hefyd i chi gysylltu gyda hwylusydd lleol eich ardal chi.

Rhannwch hwn: