Cynhaliwyd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf Pen Llŷn ym mis Gorffennaf 2022.


Daeth hanner cant o bobl o’r ardal sydd wedi eu dethol yn aelodau o’r Cynulliad i’r sesiwn gyntaf i ddod i adnabod ei gilydd, a dechrau ar y broses o gydweithio i greu Cynllun Gweithredu.
Yn ystod y sesiynau cyntaf hyn bu’r aelodau yn trafod eu pryderon a’u gobeithion am broses y cynulliad ac yn trafod eu profiad nhw yn lleol o newid hinsawdd. Cawsom gyfle hefyd i glywed gan drigolion ac arbenigwyr lleol, a mapio a thrafod yr adnoddau a’r prosiectau sydd eisoes yn bodoli yn lleol.
Dyma adroddiad llawn o Gynulliad cyntaf Pen Llŷn.



Yn ystod y cynulliad cafwyd sgwrs fyw dros Zoom Siôn Williams, pysgotwr masnachol o Sarn Mellteyrn. Mae gan Siôn gwch ym Mhorth Colmon a chewyll ar hyd arfordir Llŷn oddi yno i gyfeiriad Enlli. Yn y sgwrs bu Siôn yn son am y newidiadau mae wedi weld ym moroedd Llŷn oherwydd newid hinsawdd. Mae ganddo ddiddordeb a gwybodaeth eang am gynefin y môr a bu’n cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i fonitro newidiadau morol ac ecolegol.
Gallwch wylio’r sgwrs gyda Siôn isod.
Dyma drawsgrisifiad Cymraeg a Saesneg o’r sgwrs gyda Siôn Williams.
Hefyd yn ystod y sesiwn cafwyd cyflwyniad gan Dr Prysor Williams, Uwch ddarlithydd Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ddarlithydd a ffermwr sydd wedi gwneud llawer o waith ar y rhyngberthynas rhwng amaeth a’r amgylchedd yng nghyd-destun newid hinsawdd.
Gallwch wylio gyflwyniad Prysor isod. Yn anffodus nid yw ansawdd y sain yn wych ond mae modd darllen trawsgrisiad o’r sgwrs yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.
Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Dr Einir Young, cyn-Gyfarwyddwr Cynaladwyedd Prifysgol Bangor. Yn ei chyflwyniad mae Dr Young yn trafod Eco-amgueddfa Llŷn, ac yn gosod fframwaith ar gyfer ymateb i’r her hinsawdd.
Gallwch wylio’r cyflwyniad yma, neu ddarllen trawsgrifiad o’r cyflwyniad yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.
Cynhelir ail Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Pen Llŷn ym mis Hydref 2022.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Pen Llŷn, mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Pen Llŷn, Dafydd Rhys: dafydd.rhys@ynnillyn.cymru
