Bro Ffestiniog: Cynulliad 1

Cynhaliwyd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog dros dair sesiwn ar nosweithiau Llun yn ystod mis Mehefin 2022 yng Nghanolfan Gymdeithasol Bro Ffestiniog.

Daeth hanner cant o bobl o’r ardal sydd wedi eu dethol yn aelodau o’r Cynulliad ynghyd er mwyn dod i adnabod ei gilydd, a dechrau ar y broses o gydweithio i greu Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal.

Yn ystod y sesiynau cyntaf hyn bu’r aelodau yn trafod eu pryderon a’u gobeithion am broses y cynulliad ac yn trafod eu profiad nhw yn lleol o newid hinsawdd. Cawsom gyfle hefyd i glywed gan drigolion ac arbenigwyr lleol, a mapio a thrafod yr adnoddau a’r prosiectau sydd eisoes yn bodoli yn lleol.

Dyma adroddiad llawn o Gynulliad cyntaf Bro Ffestiniog.

Yn ystod un o sesiynau’r cynulliad cafwyd sgwrs gan Ceri Cunnington o Gwmni Bro Ffestiniog. Dyma ei sgwrs am ei brofiad o gael ei fagu yn yr ardal, a’r hyn o siapiodd o fel person a’i arwain at waith yn y maes cymunedol yn lleol.


Mae’r cyflwyniad yn Gymraeg ond gallwch ddarllen y trawsgrifiad yn Saesneg yma ac yn Gymraeg yma.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog, mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Bro Ffestiniog, Nina Bentley: nina@cwmnibro.cymru

Rhannwch hwn: