Adnoddau Addysg

BBC Bitesize: Casgliad o wersi yn canolbwyntio ar amryiaeth o bynciau yn cynnwys llygredd, yr amgylchedd a bywyd gwyllt.
Addas ar gyfer disgyblion rhwng 7 ac 11 oed. 
https://www.bbc.co.uk/bitesize/articles/z2jqjsg

Tirlun: Adnoddau addysg yn cael eu disgrifio fel “porth o brofiadau dysgu yn yr awyr agored, gyda gweithgareddau sy’n gallu mynd â’r dysgwr o’u hysgol i’r ardal leol ac i Dirweddau Dynodedig Cymru a thu hwnt.” Yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri a Thirwedd Genedlaethol Llŷn: https://tirlun.wales/

Adnoddau Addysgiadol Ynni Sir Gâr: Adnoddau dysgu a all helpu athrawon a dysgwyr i ddeall mwy am y sector Ynni Cymunedol ac i hybu dealltwriaeth am yr angen am fwy o weithgarwch lleol i ateb i heriau’r argyfwng hinsawdd.
Addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2, 3 & 4
https://www.ynnisirgar.org/adnoddau

Llên Natur – Trysorfa o wybodaeth am y gwahanol fathau o anifeiliaid a phlanhigion, crofna o gofnodion tywydd, oriel lluniau, a cylchgrawn misol am bopeth Natur Cymru
https://www.llennatur.cymru/

Pecyn Addysg Argyfwng Hinsawdd, wedi ei greu mewn cydweithrediad rhwng Yr Urdd, Canolgan Materion Rhyngwladol Cymru a Climate Cymru.
Addas ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd. 
https://www.urdd.cymru/cy/neges-heddwch-eleni/

You and Co2: Addysgu am newid Hinsawdd gyda Straeon Rhyngweithiol Digidol
Addas ar gyfer disgyblion 11 oed+ 
https://youandco2.org/

MetOffice Adnoddau Addysg: Adnoddau i gychwyn, ac i neidio yn ddyfnach i, sgyrsiau am y tywydd a newid hinsawdd hefo plant
https://weather.metoffice.gov.uk/learn-about/met-office-for-schools

Cwrs (Saesneg) digidol, rhyngweithiol o’r enw: Climate Change. Understand. Reflect. Empathize. Act. Mae’n gwrs 20 awr sy’n addysgu am newid hinsawdd gan drafod a chysidro’r teimladau a’r emosiynau sy’n codi wrth wneud hynny, a grymuso pobl ifanc i weithredu. 
Addas ar gyfer disgyblion 12 oed +
https://mgiep.unesco.org/course-climate-change

Ffilm fer (llai na 4 munud) gan Greta Thunberg a George Monbiot yn dangos yr angen i warchod, adfywio a defnyddio natur er mwyn gweithredu ar newid hinsawdd: 
https://www.youtube.com/watch?v=-Q0xUXo2zEY

Ffilm fer (llai na 3 munud) gan OECD (The Organisation for Economic Co-operation and Development) yn dangos sut mae gwledydd megis Denmarc, Canada, Awstralia, Japan a Mecsico eisoes yn addasu ar gyfer y newid yn yr hinsawdd. 
https://www.youtube.com/watch?v=oshaiU7oHOo

Gwefan Fforwm Arfordir Sir Benfro sy’n cynnwys nifer o adnoddau gan gynnwys gweithgaredd cardiau dwyieithog newid hinsawdd: yr effaith a’r gweithredoedd.
https://www.pembrokeshirecoastalforum.org.uk/projects/ccat/

Gwreiddiau Gwyrdd – cronfa adnoddau natur yn y Gymraeg lle gallwch chwilio yn ôl oedran a themau: https://www.gwreiddiaugwyllt.cymru/

Cyfoeth Naturiol Cymru – Adnoddau i ddysgwyr ar nifer o bynciau megis yr argyfwng hinsawdd, bod yn gynaliadwy, llifogydd, coed, a dŵr.
https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/education-and-skills/looking-for-learning-resources/learning-resources-search-by-topic/?lang=cy

Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol – mae’r Pecyn Garddio Newid Hinsawdd yn becyn wedi’i gynhyrchu i helpu’r cyhoedd, ysgolion a grwpiau cymunedol i arddio mewn hinsawdd sy’n newid.
https://www.farmgarden.org.uk/resources/climate-change-gardeners-pack

Rhannwch hwn: