Dyffryn Ogwen: Cynulliad 3

Cynhaliwyd trydydd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen yn Neuadd Ogwen ym mis Tachwedd 2022.

Yn dilyn Cynulliad Ysgolion ardal Dyffryn Ogwen, daeth Ela o flwyddyn 8 Ysgol Dyffryn Ogwen draw i’r cynulliad hwn i rannu’r syniadau a dyheadau y plant a’r bobl ifanc gyda’r aelodau.

Bu’n esbonio pa asedau oedd yn bwysig i blant a phobl ifanc y dyffryn, a hefyd beth oedd yn dyfodol delfrydol nhw yma yn y flwyddyn 2040. Yn dilyn hynny wedyn bu’n rhannu eu syniadau ymarferol ar sut i gyrraedd y dyfodol gwych hwnnw.

Yn dilyn hyn bu cyfle i aelodau’r cynulliad ddechrau meddwl a chynllunio oddifrif am syniadau yr hoffent eu gweld yn cael eu gwireddu yn yr ardal er mwyn lleihau allyriadau carbon a sicrhau dyfodol gwell i bawb o’r ardal.

Bydd yr aelodau yn parhau i weithio ar a datblygu’r syniadau hyn rwan er mwyn cyd-greu Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynulliad Dyffryn Ogwen mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Cymunedol yr ardal, Chris Roberts, ar chris@ogwen.org, a gallwch hefyd danysgrifio i dderbyn cylchlythyr GwyrddNi yma i glywed y diweddaraf am ein gwaith.

Rhannwch hwn: