Cynhaliwyd y cynulliad cyntaf ym mis Mai 2022 a cynhaliwyd y sesiwn olaf yn ystod gwanwyn 2023. Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Ogwen a greuwyd gan y gymuned drwy broses y cynulliadau.
Dyma fideo yn edrych ar bopeth sydd wedi digwydd ers cynnal y Cynulliadau ac yn dathlu popeth sydd wedi bod yn digwydd yn Nyffryn Ogwen:
Eisiau bod yn rhan o weithredu ar newid hinsawdd yn Nyffryn Ogwen? Cysylltwch â Chris: chris@ogwen.org
Gallwch ddysgu mwy am yr hyn ddigwyddodd ym mhob sesiwn o’r cynulliad wrth glicio isod. Mae lluniau, cyflwyniadau a llawer mwy. Gallwch hefyd ddarllen rhagor am y broses, y bartneriaid, y nawdd a llawer mwy wrth glicio yma i ddarllen yr adroddiad, GwyrddNi: Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.
Addewid GwyrddNi
Ydych chi’n edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y Cynulliad? Os felly, beth am arwyddo Addewid GwyrddNi er mwyn ymrwymo i ddarllen ac ystyried cynnwys Cynllun Gweithredu Dyffryn Ogwen pan fydd yn barod, er mwyn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy y gymuned? Byddwn yn anfon y Cynllun Gweithredu yn uniongyrchol at bawb sydd wedi arwyddo’r Addewid. I weld pwy sydd wedi arwyddo’r Adduned eisoes, ewch i waelod y dudalen neu cliciwch yma.
Ewch ati i bori, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ac os oes ganddoch unrhyw gwestiwn mae croeso i chi gysylltu â’ch hwylusydd lleol heddiw neu fynd draw i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Pwy sydd wedi arwyddo’r addewid?
Aisha
Bryn Jones
Catrin Gruffudd
Catrin Slade
Ceri Charles Durrant
Deanne Doddington Mizen
Euriona Croft
Hourieh
Huw Lewis
Huw Morris, Gwelliant Trefin
Hywel Williams, Aelod Seneddol
Jan Underwood
Jodie Prichard
Keith Jones
Lucy Finchett-Maddock, Prifysgol Bangor
Maggie Joan Haggas, 3rd Age Hostelling and Housing/Sparkle Housing Cooperative
Maria Jones
Rebecca Williams
Rich Speight, Trefnwr Dysgu UNISON
Sian Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru
Wendy Jones





