Dyffryn Ogwen: Cynulliad 1

Cynhaliwyd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf Dyffryn Ogwen ym mis Mai 2022.

Daeth hanner cant o bobl o’r ardal sydd wedi eu dethol yn aelodau o’r Cynulliad at ei gilydd er mwyn dod i adnabod ei gilydd, a dechrau ar y broses o gydweithio i greu Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal.

Yn ystod y sesiynau cyntaf hyn bu’r aelodau yn trafod eu pryderon a’u gobeithion am broses y cynulliad ac yn trafod eu profiad nhw yn lleol o newid hinsawdd. Cawsom gyfle hefyd i glywed gan drigolion ac arbenigwyr lleol, a mapio a thrafod yr adnoddau a’r prosiectau sydd eisoes yn bodoli yn lleol.

Dyma adroddiad llawn o Gynulliad cyntaf Dyffryn Ogwen.

Dyma sgwrs a gafwyd yn ystod y Cynulliad gan Yr Athro Gareth Wyn Jones er mwyn dysgu mwy am y sefyllfa sydd ohoni yn fyd-eang o ran newid hinsawdd, a rhai syniadau am sut i ymateb i’r sialens hon.

Gallwch ddarllen sgwrs Yr Athro Gareth Wyn Jones yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.

A dyma sgwrs a gafwyd yn ystod y Cynulliad gan Meleri Davies a Huw Davies o Partneriaeth Ogwen, er mwyn i ni gael syniad gwell o’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y Dyffryn.

Gallwch ddarllen sgwrs Meleri a Huw yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Dyffryn Ogwen, Chris Roberts: chris@ogwen.org

Rhannwch hwn: