Cynhaliwyd Cynulliad olaf Dyffryn Nantlle yn Neuadd Goffa Penygroes ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Chwefror.

Yn ystod y cynulliad olaf hwn bu’r aelodau wrthi’n brysur yn trafod yr holl syniadau gweithredu sydd wedi dod i law hyd yma. Roedd hwn yn gyfle i edrych yn fwy manwl ar y syniadau, ac i weld os oedd modd eu datblygu, ychwanegu atynt, a’u mireinio ymhellach.




Ar ôl hyn bu’r criw wrthi’n blaenoriaethu syniadau i’w cynnwys yn y Cynllun Gweithredu. Mae Cynllun Gweithredu Dyffryn Nantlle eisioes wedi ei gyhoeddi – darllenwch yma! Y nod rŵan yw rhoi’r syniadau sydd yn y cynllun ar waith, gan edrych am gyfleoedd i gydweithio gydag unrhyw bartneriaid a sefydliadau lleol, ac mae croeso hefyd i aelodau’r cynulliad ac unrhyw un o’r ardal i ymuno yn y gwaith a’r hwyl!
Os ydych eisiau bod yn rhan o roi’r syniadau yn y cynllun gweithredu ar waith, cysylltwch hefo Siôn, hwylusydd cymunedol Dyffryn Nantlle: sion.yrorsaf@gmail.com
Cofiwch bod modd i chi arwyddo Addewid GwyrddNi heddiw i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn y cynllun gweithredu pan mae’n barod.
Mae wedi bod yn broses wych a hoffem ddiolch o galon i bob un o aelodau’r cynulliad yn Nyffryn Nantlle am eu hamser a’u hymroddiad. Mae cyfraniad pob un wedi bod yn bwysig ac yn werthfawr.
