Dyffryn Nantlle: Cynulliad 3

Cynhaliwyd trydydd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle yn Neuadd Gymunedol Penygroes ym mis Rhagfyr 2022.

Mae adroddiad llawn a dau atodiad o’r cynulliad hwn:
Adroddiad llawn
Atodiad 1
Atodiad 2

Yn y bore bu’r criw yn gwneud archwiliad sgiliau, gan drafod pa wahanol fathau o sgiliau sydd gan holl aelodau’r cynulliad. Dyma griw ar waith ac enghraifft o’r sgiliau a gafodd eu hadnabod:

Yn dilyn hyn buom yn trafod gwahanol ddulliau o ddod i gonsensws, er mwyn hwyluso’r broses o gytuno ar beth fydd yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Gwithredu terfynol. Roedd pawb yn hapus ac yn gytun gyda’r system isod ar ddod i gonsensws:

Wedyn roedd y trafod yn parhau wrth i’r aelodau drafod egwyddorion ar gyfer gweithredu. Bydd popeth sy’n cael ei gynnwys yn y Cynllun Gweithredu yn gorfod bod yn unol â’r gwerthoedd hyn. Gallwch ddarllen mwy amdanynt yn yr adroddiad llawn uchod.

Yn y prynhawn daeth nifer o ddisgyblion cynradd ac uwchradd yr ardal i’r cynulliad i rannu syniadau a dyheadau plant a’r bobl ifanc yn dilyn y Cynulliad Ysgolion yn gynharach yn y mis.

Buont yn esbonio pa asedau oedd yn bwysig iddynt, a hefyd sut mae eu dyfodol delfrydol nhw yn edrych yn yr ardal hon yn y flwyddyn 2037. Yn dilyn hynny buont rhannu eu syniadau ymarferol ar sut i gyrraedd y dyfodol gwych hwnnw. 

Gyda holl syniadau’r plant a’r bobl ifanc mewn cof bu’r criw yn parhau i ddatblygu amryw syniadau gweithredu. Bydd yr aelodau yn parhau i weithio ar a datblygu’r syniadau hyn rwan er mwyn cyd-greu Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle, mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Dyffryn Nantlle, Siôn: sion.yrorsaf@gmail.com

Rhannwch hwn: