Cynhaliwyd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf Dyffryn Nantlle ym mis Mehefin 2022 yng Nghanolfan y Fron.

Daeth hanner cant o bobl o’r ardal sydd wedi eu dethol yn aelodau o’r Cynulliad ynghyd er mwyn dod i adnabod ei gilydd, a dechrau ar y broses o gydweithio i greu Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal.
Yn ystod y sesiynau cyntaf hyn bu’r aelodau yn trafod eu pryderon a’u gobeithion am broses y cynulliad ac yn trafod eu profiad nhw yn lleol o newid hinsawdd. Cawsom gyfle hefyd i glywed gan drigolion ac arbenigwyr lleol, a mapio a thrafod yr adnoddau a’r prosiectau sydd eisoes yn bodoli yn lleol.
Dyma adroddiad llawn o Gynulliad cyntaf Dyffryn Nantlle.






Yn y sesiwn gyntaf hefyd cafwyd cyflwyniad gan Mari Huws. Yn frodor o Benygroes ac yn wneuthuriwr ffilmiau dogfen, mae Mari Huws bellach yn Warden ar Ynys Enlli. Yn y ffilm hon a ffilmiwyd yn arbennig gan Mari ar gyfer aelodau Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, cawn ddysgu mwy am brofiad Mari o newid hinsawdd yn lleol ac o gwmpas y byd.
Mae’r sgwrs hon yn Gymraeg ond gallwch ddarllen trawsgrifiad o’r sgwrs yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.
Cawsom gyfle hefyd i glywed gan griw Yr Orsaf, ein partner lleol yn Nyffryn Nantlle.
Gwenllian Spink ac Elenid Roberts fu wrthi yn sgwrsio am waith Yr Orsaf ym Mhenygroes. Gwenllian yw Swyddog Dim Gwastraff Yr Orsaf, ac felly yn cynnal prosiectau sy’n hyrwyddo ail-gylchu, ail-ddefnyddio a newid agwedd tuag at sbwriel. Elenid yw Swyddog Datblygu Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol yr Orsaf ac yma mae’n sgwrsio am gerbydau trydan Yr Orsaf a chlybiau cymunedol. I weld mwy am brosiectau amrywiol Yr Orsaf ewch i https://www.yrorsaf.cymru/cy/Amdanom-Ni/
Mae’r sgwrs hon yn Gymraeg ond gallwch ddarllen trawsgrifiad o’r sgwrs yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.
Cyhelir ail Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle ym mis Medi 2022.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle, mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Dyffryn Nantlle, Siôn: sion.yrorsaf@gmail.com
