Dyffryn Nantlle: Cynulliad 2

Cynhaliwyd ail Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle ym mis Medi 2022 yn Trigonos. 

Dyma’r adroddiad llawn o ail Gynulliad Dyffryn Nantlle.

Daeth aelodau’r Cynulliad yn ôl at ei gilydd er mwyn parhau â’r sgyrsiau a’r trafodaethau, i gyd-gynllunio, ac i fwynhau rhagor o gyfleoedd i ddysgu gan ei gilydd a phobl eraill o’r ardal a thu hwnt. 

Ar ôl ffurfio’n grwpiau ar sail lleoliad eu cartref yn y Dyffryn, aeth pawb ati i weledigaethu gan feddwl sut le allai Dyffryn Nantlle fod yn y flwyddyn 2037, petai ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i arafu newid hinsawdd ac ymateb i’w effeithiau. 

Yna, bu cyflwyniad gan Anwen a Samina o’r Caffi Trawsnewid, grŵp sydd wedi ei ffurfio yn y Dyffryn dan arweiniad Grug o GwyrddNi, er mwyn trafod a datblygu rhagor o syniadau gweithredu mewn ymateb i effeithiau newid hinsawdd. Mae croeso i unrhyw un o’r ardal ymuno â’r Caffi Trawsnewid, cysylltwch efo Grug am ragor o fanylion. 

Bu’r aelodau hefyd yn trafod pa fath o weithredoedd yr hoffent eu gweld yng Nghynllun Gweithredu terfynol yr ardal ar ddiwedd y cynulliad, cyn mwynhau taith arbennig o amgylch Trigonos, gan ddysgu am ddulliau ffermio a chyneafu’n ganolfan.

Cawsom gyfle hefyd i glywed gan gynrychiolwyr o dri sefydliad cymunedol arall: Cwm Arian Renewable Energy (CARE), Partneriaeth Ogwen a Cwmni Bro Ffestiniog. Bu Holly, Mel a Ceri yn trafod eu profiad nhw o weithredu yn lleol gan esbonio rhai o’r camau at gyrraedd yno a rhai o’r heriau oedd rhaid eu goresgyn ar hyd y ffordd.  Mae hon yn drafodaeth Gymraeg. Dyma drawsgrifiad Saesneg o’r drafodaeth.

Caiff  trydydd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle ei gynnal cyn y Nadolig.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle, mae croeso i chi gysylltu â Hwylusydd Dyffryn Nantlle, Siôn: sion.yrorsaf@gmail.com

Rhannwch hwn: