Cynhaliwyd ail Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog ym mis Hydref 2022 yn Neuadd Gymunedol Llan Ffestiniog.
Dyma adroddiad llawn o ail Gynulliad Bro Ffestiniog.

Daeth aelodau’r Cynulliad yn ôl at ei gilydd er mwyn parhau â’r sgyrsiau a’r trafodaethau, i gyd-gynllunio, ac i fwynhau rhagor o gyfleoedd i ddysgu gan ei gilydd a phobl eraill o’r ardal a thu hwnt.
Prif weithgaredd y noson gyntaf oedd dychmygu ein dyfodol delfrydol ym Mro Ffestiniog, petai popeth allai gael ei wneud i arafu ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd wedi cael ei wneud. Bu cyfle wedyn i rannu rhai o’r syniadau a’r gweledigaethau hyn. Dyma rai enghreifftiau isod.




Cawsom gyfle hefyd i glywed gan Ceri Cunnington o Gwmni Bro Ffestiniog am y Cylchdeithau Ysgolion a gynhaliwyr yn ddiweddar ar y cyd rhwng GwyrddNi, Cwmni Bro Ffestiniog, Y Dref Werdd, Antur Stiniog a Greaves Welsh Slate.
Diben ail ran y cynulliad oedd gweithio gyda’n gilydd i ffurfio set o gwestiynau fyddai modd eu gofyn am bob gweithred, i sicrhau bod holl weithredoedd y cynulliad yn unol â egwyddorion y cynulliad. Dyma rai lluniau o’r aelodau ar waith.




Cynhelir Cynulliad 3 ar ôl y Nadolig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog mae croeso i chi gysylltu â Nina Bentley, Hwylusydd Cymunedol Bro Ffestiniog: nina@cwmnibro.cymru
