Posted on

Remembering Gentle Giants – a tribute (by Lowri)

Cofio Cewri Tawel

gan Lowri Hedd Vaughan

Mae’n anodd amgyffred y bwlch fydd ohoni yn sgil colli hoelion wyth ein bro. Anos fyth cysidro beth, os unrhywbeth, a ddaw i’w lenwi.

Mae tri felly wedi ein gadael, eleni. Tri a oedd yn llawn chwilfrydedd digyfaddawd ac yn arbennig hael eu hamser a’u syniadau gan gyfoethogi bywydau di-rif. 

Sel Williams

Sosialydd, athronyddwr, athro, actifydd, cerddwr, naturiaethwr, hanesydd a mwy. Gweledigaeth Sel o gymunedau yn perchnogi a llywio eu dyfodolau eu hunain oedd un o brif yrrwyr sefydlu rhwydweithiau Cwmni Bro Ffestiniog a Cymunedoli yng Ngwynedd. Ei hawddgarwch a’i frwdfrydedd a’i gwthiodd ymhellach y llynedd i gymrodorion ar draws Cymru, a thu hwnt.

Bu’n ddarlithydd datblygu cymunedol gan ysbrydoli sawl un tuag at yrfaoedd ystyrlon. Ar ddiwrnod beth fuasai wedi bod ei benblwydd yn 80, bydd ei gyfeillion yn ymgynull i ddathlu ei oes, i rannu hanesion ac i gynllunio etifeddiaeth sy’n deilwng ohonno.
Mae’n wir werth i pawb gymeryd hanner awr o’u diwrnod i wylio Sel a’i ddarlith ar y mynydd [https://vimeo.com/949563100] a oedd yn ran o Stori’r Tir, Dyffryn Peris yn 2024.

Yng ngwyneb heriau mawr ein hoes mae gwir ddeall a caru cymuned, perchnogi asedau lleol ac ymfalchio yn ein bro yn wersi holl bwysig. Gobeithiwn yn fawr allu gwneud cyfiawnder a’r gwersi yma a chyd-gynnal fflam Sel i’r dyfodol. Diolch amdanat, Sel.

Gareth Roberts

Yn trigo uwchben Deiniolen, collwyd Gareth yn sydyn fis Ebrill eleni, a gydag o, hanesion a damcaniaethau di-rif am yr hyn a fu, beth sydd wedi mynd a dod a beth allasai wedi a bodoli dros y canrifoedd yn y fro hon, a thu hwnt. Roedd ei deithiau cerdded wastad yn orlawn gyda mynychwyr selog yn aml yn awchu am fwy. O gasglu hanesion pentrefi a’u gosod ar fap i gyrchu henebion anelwig, roedd dawn Gareth i wefreiddio pobl o bob oedran heb ei gymharu.

Roedd ei gefnogaeth a’i anogaeth i waith GwyrddNi yn amhrisiadwy a gobeithiwn allu cefnogi Menter Fachwen ac eraill i sicrhau coffhad teilwng, o bosib trwy sefydlu canolfan gymuedol ac arddangosfa dreftadaeth a fu’n uchelgais ganddo ar safle hen Ysgol Cwm-y-Glo. Diolch amdanat, Gareth.

Chris Gathercole

Pan oedd GwyrddNi Dyffryn Peris yn hedyn bychan o syniad yn cynnal ambell ddigwyddiad galw-i-mewn gobeithiol, y person cyntaf i neidio am y cyfle oedd Chris a oedd yn 84 mlwydd oed ar y pryd. Dros nifer o sgyrsiau ac ebyst, cyfarfodydd grŵp ac ymweliadau i’w gartref carbon isel, roedd yn amlwg fod yma amgylcheddwr profiadol, angerddol ac uchelgeisiol. Bu’n ysbrydoliaeth ac yn fentor i mi yn hynny o beth. Roedd ei syniadau a chysylltiadau arbenigol yn gymorth mawr wrth ddylunio ein Cynulliadau.

Dyma flog Agor Drws y Passivhaus, lle agorodd Chris ei ddrysau i ni.

Daeth yn ffrindiau gyda nifer o aelodau’r Cynulliad Cymunedol hefyd, a bu yn ymweld a chartrefi eraill i rannu arferion da ynglyn ag ôl-ffitio a lleihau defnydd ynni yn y cartref. Roedd Chris yn gymydog arbennig a hwylusodd sawl perthynas arall rhwng cymdogion – dyma adeiladu gwydnwch cymunedol ar waith, yn dawel bach. Rhoddodd domen o lyfrau ecolegol a chymdeithasolegol i mi i’w dosbarthu yn lleol. Ni wyddwn hyd nes ei angladd ei fod hefyd wedi arloesi ym maes iechyd meddwl fel seicolegydd clinigol, gan eirioli dros gefnogaeth a chynhwysiad cymunedol i’w gleifion yn hytrach na gwarchodaeth sefydliadol. Diolch amdanat, Chris.

Chris, ail o’r chwith rhes flaen.

Share this: