{"id":5374,"date":"2025-05-26T09:00:00","date_gmt":"2025-05-26T08:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/?p=5374"},"modified":"2025-05-21T14:13:12","modified_gmt":"2025-05-21T13:13:12","slug":"tribute-by-lowri","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/tribute-by-lowri\/","title":{"rendered":"Remembering Gentle Giants &#8211; a tribute (by Lowri)"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cofio Cewri Tawel<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>gan Lowri Hedd Vaughan<\/em><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n anodd amgyffred y bwlch fydd ohoni yn sgil colli hoelion wyth ein bro. Anos fyth cysidro beth, os unrhywbeth, a ddaw i\u2019w lenwi.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tri felly wedi ein gadael, eleni. Tri a oedd yn llawn chwilfrydedd digyfaddawd ac yn arbennig hael eu hamser a\u2019u syniadau gan gyfoethogi bywydau di-rif.\u00a0<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sel Williams<\/strong><\/p>\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" width=\"482\" height=\"512\" data-src=\"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/sel.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5368 lazyload\" style=\"--smush-placeholder-width: 482px; --smush-placeholder-aspect-ratio: 482\/512;width:265px;height:auto\" data-srcset=\"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/sel.jpg 482w, https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/sel-282x300.jpg 282w, https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/sel-24x24.jpg 24w, https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/sel-34x36.jpg 34w, https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/sel-45x48.jpg 45w\" data-sizes=\"(max-width: 482px) 100vw, 482px\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sosialydd, athronyddwr, athro, actifydd, cerddwr, naturiaethwr, hanesydd a mwy. Gweledigaeth Sel o gymunedau yn perchnogi a llywio eu dyfodolau eu hunain oedd un o brif yrrwyr sefydlu rhwydweithiau Cwmni Bro Ffestiniog a Cymunedoli yng Ngwynedd. Ei hawddgarwch a\u2019i frwdfrydedd a\u2019i gwthiodd ymhellach y llynedd i gymrodorion ar draws Cymru, a thu hwnt. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bu\u2019n ddarlithydd datblygu cymunedol gan ysbrydoli sawl un tuag at yrfaoedd ystyrlon. Ar ddiwrnod beth fuasai wedi bod ei benblwydd yn 80, bydd ei gyfeillion yn ymgynull i ddathlu ei oes, i rannu hanesion ac i gynllunio etifeddiaeth sy\u2019n deilwng ohonno.<br\/>Mae\u2019n wir werth i pawb gymeryd hanner awr o\u2019u diwrnod i wylio Sel a\u2019i ddarlith ar y mynydd [<a href=\"https:\/\/vimeo.com\/949563100\">https:\/\/vimeo.com\/949563100<\/a>] a oedd yn ran o Stori\u2019r Tir, Dyffryn Peris yn 2024.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng ngwyneb heriau mawr ein hoes mae gwir ddeall a caru cymuned, perchnogi asedau lleol ac ymfalchio yn ein bro yn wersi holl bwysig. Gobeithiwn yn fawr allu gwneud cyfiawnder a\u2019r gwersi yma a chyd-gynnal fflam Sel i\u2019r dyfodol. Diolch amdanat, Sel.<br\/><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Gareth Roberts<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn trigo uwchben Deiniolen, collwyd Gareth yn sydyn fis Ebrill eleni, a gydag o, hanesion a damcaniaethau di-rif am yr hyn a fu, beth sydd wedi mynd a dod a beth allasai wedi a bodoli dros y canrifoedd yn y fro hon, a thu hwnt. Roedd ei deithiau cerdded wastad yn orlawn gyda mynychwyr selog yn aml yn awchu am fwy. O gasglu hanesion pentrefi a\u2019u gosod ar fap i gyrchu henebion anelwig, roedd dawn Gareth i wefreiddio pobl o bob oedran heb ei gymharu. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd ei gefnogaeth a\u2019i anogaeth i waith GwyrddNi yn amhrisiadwy a gobeithiwn allu cefnogi Menter Fachwen ac eraill i sicrhau coffhad teilwng, o bosib trwy sefydlu canolfan gymuedol ac arddangosfa dreftadaeth a fu\u2019n uchelgais ganddo ar safle hen Ysgol Cwm-y-Glo. Diolch amdanat, Gareth.<\/p>\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright is-resized\"><img decoding=\"async\" data-src=\"https:\/\/lh7-qw.googleusercontent.com\/docsz\/AD_4nXecaNOm7X7Ojt_nZdWkmk31hGS-lT7eEwWyaUIcH1MOXDlN9Yu3Ojlr5ETEetsiWN31gNPMFpVY0BisUZYoXBZ4CQUFxaZadmDMvBjx68oDtD7Bg7zuIaAjex5WcZZuMWujAEovhg?key=PBi0sfg_IEMG0AwGKsftmA\" alt=\"\" style=\"width:466px;height:auto\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" class=\"lazyload\" \/><\/figure>\n<\/div><div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" data-src=\"https:\/\/lh7-qw.googleusercontent.com\/docsz\/AD_4nXdZJiuGT6nG_fPcIBVOPPVPOuMzQ18PrfqzCwMeAkRZiDzS40AJW7mkT_dBjoqrgNmBzd6M4DSXK-b6oRShuH7oeYj5DMo0a3cp9M7CGi4-iupxi4f_ivHEbw2h-d-P34_8R7Uk?key=PBi0sfg_IEMG0AwGKsftmA\" alt=\"\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" class=\"lazyload\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Chris Gathercole<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan oedd GwyrddNi Dyffryn Peris yn hedyn bychan o syniad yn cynnal ambell ddigwyddiad galw-i-mewn gobeithiol, y person cyntaf i neidio am y cyfle oedd Chris a oedd yn 84 mlwydd oed ar y pryd. Dros nifer o sgyrsiau ac ebyst, cyfarfodydd gr\u0175p ac ymweliadau i\u2019w gartref carbon isel, roedd yn amlwg fod yma amgylcheddwr profiadol, angerddol ac uchelgeisiol. Bu\u2019n ysbrydoliaeth ac yn fentor i mi yn hynny o beth. Roedd ei syniadau a chysylltiadau arbenigol yn gymorth mawr wrth ddylunio ein Cynulliadau. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma flog <a href=\"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/step-inside-the-passivhaus\/\"><em>Agor Drws y Passivhaus<\/em>,<\/a> lle agorodd Chris ei ddrysau i ni. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth yn ffrindiau gyda nifer o aelodau\u2019r Cynulliad Cymunedol hefyd, a bu yn ymweld a chartrefi eraill i rannu arferion da ynglyn ag \u00f4l-ffitio a lleihau defnydd ynni yn y cartref. Roedd Chris yn gymydog arbennig a hwylusodd sawl perthynas arall rhwng cymdogion &#8211; dyma adeiladu gwydnwch cymunedol ar waith, yn dawel bach. Rhoddodd domen o lyfrau ecolegol a chymdeithasolegol i mi i\u2019w dosbarthu yn lleol. Ni wyddwn hyd nes ei angladd ei fod hefyd wedi arloesi ym maes iechyd meddwl fel seicolegydd clinigol, gan eirioli dros gefnogaeth a chynhwysiad cymunedol i\u2019w gleifion yn hytrach na gwarchodaeth sefydliadol. Diolch amdanat, Chris.<\/p>\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" data-src=\"https:\/\/lh7-qw.googleusercontent.com\/docsz\/AD_4nXfPyTmBaWq56lUTshrNzUEt69quql7NBsGF2OPvYwpXMTR2x0L-IniPA9RZf9CwjPyrdHCnCq0Db48g3f5ogfop2APhCaGR911O1BsfxJvG-o_Zkfojf9TI7w1B7c9V6jW7YCGdlQ?key=PBi0sfg_IEMG0AwGKsftmA\" alt=\"\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" class=\"lazyload\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<p class=\"has-text-align-center wp-block-paragraph\"><em>Chris, ail o\u2019r chwith rhes flaen.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cofio Cewri Tawel gan Lowri Hedd Vaughan Mae\u2019n anodd amgyffred y bwlch fydd ohoni yn sgil colli hoelion wyth ein bro. Anos fyth cysidro beth, os unrhywbeth, a ddaw i\u2019w lenwi. Mae tri felly wedi ein gadael, eleni. Tri a oedd yn llawn chwilfrydedd digyfaddawd ac yn arbennig hael eu hamser a\u2019u syniadau gan gyfoethogi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":5375,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[53,1],"tags":[],"class_list":["post-5374","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-community","category-uncategorised"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5374","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5374"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5374\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5383,"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5374\/revisions\/5383"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5375"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5374"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5374"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwyrddni.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5374"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}